Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

CELG(4)-28-13 papur 1

 

Dyddiad:                   24  Hydref 2013

           

 

Teitl:               Papur tystiolaeth – Dyraniadau'r Gyllideb Ddrafft - Cymunedau ar gyfer 2014-15.

 

 

1.         Cyflwyniad

 

Mae'r papur hwn yn rhoi sylwadau a gwybodaeth i'r Pwyllgor am gynigion y Cymunedau ar gyfer cyllidebau'r rhaglenni yn y dyfodol a amlinellwyd yn y Gyllideb Ddrafft a gyhoeddwyd ar 8 Hydref 2013. 

 

2.         Cefndir

 

O gymharu â'r cynlluniau dangosol a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Derfynol 2013-14, fel yr ailddatganwyd yn dilyn yr ad-drefnu ym mis Mawrth 2013, mae cyfanswm dyraniad y Terfyn Gwariant Adrannol (DEL) ar gyfer Prif Grŵp Gwariant (MEG) Cymunedau a Threchu Tlodi (CTP) wedi cynyddu £0.4m yn 2014-15 i £212.7m.

 

Ceir gostyngiad net yn y DEL Adnoddau o £3.6m yn 2014-15 i £192.2m. Y cynllun dangosol ar gyfer DEL Adnoddau 2015-16, a gyhoeddir am y tro cyntaf yw £191.5m.

 

Ceir cynnydd net yn y gyllideb cyfalaf o £4m yn 2014-15 i £20.5m, yn dilyn dyraniad i gefnogi'r blaenoriaethau yng Nghynllun Buddsoddi Seilwaith Cymru i ariannu lleoliadau Dechrau'n Deg. Y cynllun dangosol ar gyfer DEL Cyfalaf 2015-16, a gyhoeddir am y tro cyntaf yw £14.5m.

 

Dengys y tablau ariannol cryno canlynol yr effaith gyffredinol ar gyllideb sylfaenol Terfyn Gwariant Adrannol (DEL) CTP. 

 

Tablau Ariannol Cryno:

 

 

MEG CTP

 

Cyllideb Atodol 2013-14

 

 

 

£000

 

Cyllideb Derfynol Cynlluniau Dangosol wedi'u Hailddatgan 2014-15

£000

 

Newidiadau 2014-15

 

 

 

 

£000

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau newydd 2014-15

 

 

£000

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau newydd 2015-16

 

 

£000

DEL Adnoddau

187,556

195,871

-3,625

192,246

191,534

DEL Cyfalaf

24,450

16,450

4,000

20,450

14,450

Gwaelodlin DEL

212,006

212,321

375

212,696

205,984

 

 

O fewn y MEG CTP, crynhoir yr elfennau penodol ar gyfer Cymunedau yn y tabl isod.

 

Cefnogi Cymunedau a Phobl

Cyllideb Atodol 2013-14

 

 

 

 

 

Cyllideb Derfynol Cynlluniau Dangosol wedi'u Hailddatgan 2014-15

£000

 

Newidiadau 2014-15

 

 

 

 

£000

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2014-15

 

 

£000

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau newydd 2015-16

 

 

£000

DEL Adnoddau

67,097

65,712

-1,700

64,012

61,500

DEL Cyfalaf

10,950

10,950

0

10,950

10,950

Gwaelodlin DEL

78,047

76,662

-1,700

74,962

72,450

 

 

3.         Trosolwg o'r Gyllideb

Nod cyffredinol yr adran Cymunedau a Threchu Tlodi yw uno gwaith Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid wrth drechu tlodi a chyflawni dyfodol tecach i gymunedau, teuluoedd ac unigolion, o fewn cyd-destun datblygu cynaliadwy. 

Mae gan yr Adran nifer o flaenoriaethau penodol sy'n adlewyrchu a chefnogi'r gwaith o gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu, y mae llawer ohonynt yn cael effaith uniongyrchol ar Gymunedau:

 

4.            Rhaglen Lywodraethu

 

Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi

 

Mae'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi ‘Creu Cymunedau Cryf’ yn nodi sut y bydd Gweinidogion yn targedu adnoddau ar draws adrannau i atal tlodi a lleddfu ei effaith ar fywydau pobl, tra'n helpu pobl hefyd i gael gwaith sy'n hollbwysig er mwyn helpu i godi pobl allan o dlodi.  Rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion ar y meysydd lle y gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf ac mae hyn yn cynnwys:

 

·         creu 5,000 o gyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth ar gyfer aelwydydd lle nad oes neb yn gweithio;

·         gwella cyrhaeddiad addysgol plant o deuluoedd incwm isel;

·         lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt yn ennill nac yn dysgu.

 

Mae'r Cynllun Gweithredu hwn yn ymrwymiad clir, ar draws Llywodraeth Cymru, y byddwn yn defnyddio ein hadnoddau i helpu'r rheini sydd â'r angen mwyaf ar hyn o bryd ac atal cenedlaethau'r dyfodol rhag profi tlodi.  Nid oes gan y Cynllun linell cyllideb ar wahân gan y caiff ei chario ymlaen ar draws y Llywodraeth, gydag adnoddau a rhaglenni yn cael eu hailffocysu er mwyn sicrhau y cyrhaeddir y targedau uchelgeisiol.

 

Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno adroddiad blynyddol ar gynnydd y targedau a'r cerrig milltir yn y cynllun a sefydlwyd Bwrdd Gweithredu wedi'i gadeirio gan y Dirprwy Weinidog i fonitro cynnydd. 

 

Cymunedau yn Gyntaf

 

Mae'r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi cael ei hailfodelu'n sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf a'i datblygu yn Rhaglen Trechu Tlodi sy'n Canolbwyntio ar y Gymuned gyda chylch gwaith cyson i gefnogi'r bobl fwyaf difreintiedig yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.  

 

Sefydlwyd 52 o Glystyrau Cymunedau yn Gyntaf, a rhyngddynt maent yn cynnwys 10% o'r ardaloedd daearyddol mwyaf difreintiedig yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2011.  Dyfarnwyd dros £75m o'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i'r Clystyrau hyn ar gyfer y cyfnod hyd at fis Mawrth 2015.

 

Yn gyson â themâu twf a swyddi; cyrhaeddiad addysgol; a chefnogi plant, teuluoedd a chymunedau difreintiedig, strwythurir y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf o amgylch tri chanlyniad: cymunedau ffyniannus; cymunedau dysgu; a chymunedau iach.  Mae pob clwstwr wedi llunio cynllun cyflenwi sy'n nodi'r camau gweithredu a gymerir i gefnogi'r canlyniadau hyn, ynghyd â ffyrdd y caiff llwyddiant y camau gweithredu hynny ei fesur.    

 

Mae cyllideb Cymunedau yn Gyntaf yn cefnogi amrywiaeth o gamau gweithredu "plygu rhaglenni" allweddol.  Mae plygu rhaglenni yn darparu adnoddau ychwanegol, gan gynnwys cyllid a staff i gyflawni blaenoriaethau allweddol ar draws adrannau ac asiantaethau partner Llywodraeth Cymru.  Mae'r rhaglenni hyn a ariennir ar y cyd yn cynnwys: gwaith gydag ysgolion drwy'r Grant Amddifadedd Disgyblion i wella cyrhaeddiad addysgol plant yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf; Gwasanaethau Iechyd i ddarparu Archwiliadau Iechyd i Bobl Dros 50 Oed; Y Ganolfan Byd Gwaith i wneud cyngor ar gyflogaeth yn fwy hygyrch; a Twf Swyddi Cymru i greu cyfleoedd newydd am swyddi i bobl ifanc.  At ei gilydd, bydd ychydig o dan £4m ar gael i gefnogi'r camau gweithredu hyn yn 2014-15.    

 

 

Cynhwysiant Ariannol

 

Byddwn yn parhau i gefnogi Cyngor ar Bopeth Cymru i weinyddu'r cynllun defnyddio budd-dal cyfunol - Cyngor Da, Bywyd Da (BABL), gyda chyllid wedi'i ddiogelu o £2.2m yn 2014-15.  Mae hyn yn arbennig o bwysig o gofio'r newidiadau o ran Diwygio Lles gan fod BABL yn annog y defnydd o fudd-dal ymhlith teuluoedd sydd â phlant anabl, y rhai y mae tlodi yn debygol o effeithio ar eu hiechyd, ac ar gyfer Budd-dal y Dreth Gyngor a Budd-dal Tai.  Yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun mae cyfanswm o 20,919 o bobl wedi cael cymorth gyda 55,289 o faterion ac arweiniodd hyn at gadarnhau bron £17m o fudd-daliadau ychwanegol. 

 

Diwygio Lles

 

Fel rhan o raglen barhaus Llywodraeth y DU i ddiwygio lles, diddymwyd y Gronfa Gymdeithasol ddewisol ar 31 Mawrth 2013.  Trosglwyddwyd arian i Lywodraeth Cymru er mwyn gweinyddu cynllun arall yn ei lle o 2il Ebrill 2013, sef y Gronfa Cymorth Dewisol. Mae Gwasanaethau Cyhoeddus Northgate yn darparu'r cynllun (o dan gontract i Lywodraeth Cymru) gan weithio mewn partneriaeth â Chronfa'r Teulu a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae'r arian grant hwn yn werth £10.2m y flwyddyn ac yn cynnig taliadau, neu gymorth mewn nwyddau i bobl sy'n agored i niwed neu bobl ddifreintiedig er mwyn eu galluogi i fyw'n annibynnol neu barhau i wneud hynny, ac yn rhoi cymorth brys i bobl y nodwyd bod angen diogelu eu hiechyd a'u lles. Gwnaed darpariaeth i werthuso ei effaith wrth gefnogi plant, teuluoedd a chymunedau difreintiedig a helpu i atal sefyllfaoedd argyfyngus rhag digwydd eto drwy ei gysylltiadau â gwasanaethau cymorth eraill.

 

Rydym hefyd yn ymestyn ein rhaglen gymorth i gyn-weithwyr anabl Remploy yng Nghymru drwy'r Grant Cymorth i Gyflogwyr (ESG).  Yn ystod 2012 cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod nifer o ffatrïoedd Remploy yn mynd i gau o dan 'Gam 1' o'i chynlluniau.  Mewn ymateb, lansiodd Llywodraeth Cymru yr ESG er mwyn helpu gweithwyr cymwys Remploy a oedd wedi'u dadleoli i ddod o hyd i waith newydd.  Ym mis Mai 2013, cyhoeddwyd y bydd gweithwyr cymwys Remploy yr effeithir arnynt gan 'Gam 2' hefyd yn cael yr un lefel o gymorth gan Lywodraeth Cymru.  Dengys y ffigurau diweddaraf (ar 30 Awst 2013) fod y cynllun wedi helpu 117 o gyn-weithwyr Remploy i ddod o hyd i swyddi newydd.  Mae'r cynllun bellach wedi cael ei ymestyn fel y gellir gwneud cais hyd at fis Mawrth 2014.  Caiff y pecyn cymorth ei ariannu drwy hyd at £2.4 miliwn o arian Llywodraeth Cymru.

 

Undebau Credyd

 

Ein gweledigaeth ar gyfer Undebau Credyd yw gweithio tuag at fudiad Undeb Credyd cynaliadwy a all gefnogi pobl sydd wedi'u hallgáu'n ariannol ac atal problemau rhag codi o ganlyniad i ddyledusrwydd neu ddiffyg cyllidebu. Mae Undebau Credyd yn gyfranwyr allweddol o ran trechu tlodi ac allgáu ariannol lle y mae'n parhau i fodoli yn ein cymunedau. Ar ddiwedd mis Mehefin 2013, roedd 34 o swyddfeydd Undebau Credyd, a cheir cyfanswm o 256 o fannau casglu ledled Cymru. Rhoddir ystyriaeth i ba gyllid fydd ar gael o fis Ebrill 2014 ymlaen i gefnogi Undebau Credyd i dreiddio 6% i'r farchnad erbyn 2010.

 

 

Y Trydydd Sector

 

Yn dilyn ymgynghoriad ar y gydberthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r Trydydd Sector yn 2013, byddwn yn parhau i fuddsoddi yn sefydliadau seilwaith y Trydydd Sector er mwyn sicrhau y caiff sefydliadau gwirfoddol ledled Cymru eu cefnogi, eu hatgyfnerthu a'u galluogi i gyfrannu'n gadarn at drechu tlodi yn arbennig a helpu'r bobl fwyaf difreintiedig a'r cymunedau mwyaf difreintiedig.

 

Yn amodol ar gyhoeddiadau yn y dyfodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad, rhagwelwn y bydd ffocws cynyddol ar gefnogaeth leol i sefydliadau gwirfoddoli a chymunedol ac ailgydbwyso rolau sefydliadau seilwaith allweddol ar lefelau awdurdodau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn helpu i gyflawni hyn.  Bydd cyllideb seilwaith y Trydydd Sector o £7.3m yn 2014-15 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer arloesedd sydd â'r nod o wneud y sector yn fwy cynaliadwy a gwella cydweithio â'r sector cyhoeddus ar bob lefel. 

 

Cydraddoldebau

 

I gydnabod y pwysigrwydd a roddwn ar gydraddoldeb rydym wedi diogelu cyllid ar y lefelau cyfredol ar gyfer arian grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant ar gyfer y trydydd sector.  Mae hyd at £1.6m wedi ei neilltuo i arian grant yn 2014-15.   Nod cyffredinol y grant yw darparu arian grant i sefydliadau yn y trydydd sector er mwyn eu helpu i hyrwyddo cydraddoldeb, mynd i'r afael â gwahaniaethu ac annog cymunedau cydlynol a chynhwysol ledled Cymru. Ailddatblygwyd y grant yn dilyn ymgynghoriad yn 2012-13 sydd wedi sicrhau ei fod yn adlewyrchu'r amgylchedd economaidd a chymdeithasol cyfredol yng Nghymru a'i fod yn gyson â blaenoriaethau cydraddoldeb a chynhwysiant y Rhaglen Lywodraethu.

 

Sipsiwn a Theithwyr

 

Mae Sipsiwn a Theithwyr ymhlith y bobl dlotaf a mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas.  Un o amcanion allweddol y Rhaglen Lywodraethu yw gwella safleoedd Sipsiwn a Theithwyr sy'n eiddo i awdurdodau lleol ledled Cymru.  Rydym yn cynnig arian cyfalaf i awdurdodau lleol yng Nghymru i adnewyddu safleoedd awdurdodau lleol presennol ac arian tuag at adeiladu safleoedd newydd.  Bydd plant a theuluoedd yn well eu byd o ganlyniad i'r rhaglen hon oherwydd bydd yn arwain at safonau byw gwell i Sipsiwn a Theithwyr sydd naill ai'n byw mewn llety is na'r safon ar safleoedd presennol neu sy'n byw ar wersylloedd diawdurdod neu a oddefir oherwydd y diffyg darpariaeth o ran safleoedd.

 

Mae'r newid o 75% i 100% o arian grant yn 2011 wedi arwain at welliant sylweddol yn nifer y rhai sy'n derbyn yr arian. Mae hyn yn cynnwys cytundeb i ariannu'r safle Sipsiwn a Theithwyr newydd cyntaf yng Nghymru ers 1997. Diogelwyd y gyllideb ar gyfer 2014-15 ar £1.5m a bydd yn gwneud cyfraniad amlwg i'r gwaith o gyflwyno'r Rhaglen Lywodraethu, yn enwedig yr ymrwymiad i hyrwyddo cyfle cyfartal a mynd i'r afael â gwahaniaethu a'r ymrwymiad i greu cymunedau mwy cynhwysol a chydlynol.

 

Bydd gwella trefniadau byw presennol a chreu safleoedd newydd yn esgor ar nifer o fuddiannau i blant a theuluoedd Sipsiwn a Theithwyr. Bydd plant yn cael budd o lefelau presenoldeb a chyrhaeddiad gwell o fewn y system addysg oherwydd bydd gweithwyr addysg proffesiynol yn gallu meithrin cydberthnasau sefydlog, llawn ymddiriedaeth â theuluoedd.  Gall gwella safleoedd neu ddarpariaeth o ran safleoedd hefyd arwain at lai o debygolrwydd y bydd plant yn gorfod byw neu chwarae mewn amgylcheddau anniogel.  Bydd iechyd sipsiwn a theithwyr yn gwella, er enghraifft, drwy fanteisio ar ofal iechyd ataliol, gan gynnwys brechu plant am fod ymwelwyr iechyd yn gallu cysylltu â theuluoedd nad oeddent yn gallu cysylltu â hwy o'r blaen. Mae hefyd yn debygol y caiff Sipsiwn a Theithwyr eu hintegreiddio'n fwy hefyd gan y bydd unigolion yn gallu manteisio ar gyfleusterau lleol, gan feithrin cydberthnasau mwy sefydlog o fewn eu cymunedau, a bodloni ein hymrwymiad i greu cymunedau cynhwysol a chynaliadwy.

 

 

5.            Deddfwriaeth

 

Yn y Rhaglen Lywodraethu, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddeddfu er mwyn ymgorffori datblygu cynaliadwy fel prif egwyddor drefniadol sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru, a sefydlu corff datblygu cynaliadwy annibynnol. 

 

Mae Bil Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn cael ei ddatblygu i ddiogelu ein cymunedau at y dyfodol fel y cânt hwy a'r bobl sy'n byw ynddynt eu diogelu rhag pwysau sy'n bygwth eu hyfywedd a'u goroesiad.  Yr hyn rydym am ei weld yw bod sefydliadau, pan fyddant yn diwallu anghenion byrdymor dybryd, megis lleddfu effaith pwysau economaidd ac ariannol a chefnogi twf a swyddi, yn gallu gwneud pob ymdrech i ddiogelu buddiannau hirdymor pobl Cymru, gan fynd i'r afael â heriau o ran pontio'r cenedlaethau megis anghydraddoldebau iechyd, gwella sgiliau a lleddfu effaith newid yn yr hinsawdd.   

 

Rydym yn ymrwymedig i gyflwyno Bil yn y tymor Cynulliad hwn ac wrth ddatblygu'r cynigion ar gyfer y Bil rydym wedi cynnwys ac ymgynghori ag ystod eang o randdeiliaid.  Cyhoeddwyd Datganiad Ysgrifenedig ar 14 Hydref, yn rhoi'r newyddion diweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ar Fil Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Ystyriodd yr ymgynghoriad a ddaeth i ben yn ddiweddar 'Parhad a Newid - Adnewyddu'r Berthynas Rhwng Llywodraeth Cymru a'r Trydydd Sector' a oes angen deddfwriaeth yn y maes hwn.  Mae dadansoddiad o'r ymatebion yn mynd rhagddo a byddwn yn ystyried a oes angen Bil Compactau Statudol y Trydydd Sector.

 

Mae cwmpas a chyrhaeddiad eang y portffolio Cymunedau a Threchu Tlodi yn golygu y bydd y mwyafrif o'r Deddfau a'r Biliau o fewn y Rhaglen Ddeddfwriaethol yn effeithio arno.  Mae'r Adran Cymunedau a Threchu Tlodi yn ymgysylltu â Thimau Biliau ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru i drafod ac ystyried yr effeithiau hynny.  Mae eitemau sydd o ddiddordeb arbennig yn cynnwys:

 

 

Yn benodol, mae Bil Tai (Cymru) yn cynnig cyflwyno dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr lle mae angen nas bodlonwyd. Bydd y ddeddfwriaeth yn ceisio mynd i'r afael â'r diffyg difrifol o ran lleiniau Sipsiwn a Theithwyr awdurdodedig. Bydd y ddyletswydd yn defnyddio'r Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr ac ni ddylai roi baich ariannol ychwanegol ar awdurdodau lleol. Er mwyn cyflawni'r nod hwn yn gynt, rydym hefyd yn ystyried a ellir sicrhau cyfalaf ychwanegol i gyd-fynd â gweithredu'r Bil Tai.

 

Yn ogystal â'r Rhaglen Ddeddfwriaethol, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei rhaglen ddeddfwriaethol yn Araith y Frenhines yn gynharach eleni.  Mae gan yr Adran Cymunedau a Threchu Tlodi ddiddordeb penodol yng nghynnwys y Bil Mewnfudo. Er ei bod heb ei datganoli yn bennaf, gall y ddeddfwriaeth hon effeithio ar faterion datganoledig neu faterion y mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol amdanynt.  Lle mae angen Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol cânt eu cyflwyno'n brydlon.  Mae trafodaethau ynghylch goblygiadau ariannu yn mynd rhagddynt gyda Llywodraeth y DU fel rhan o'r trafodaethau ehangach ar gynnwys y ddeddfwriaeth.

 

 

6.            Cyfalaf

 

Mae llinell Cyllideb Cyfalaf y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ar hyn o bryd yn ariannu tri chynllun gwahanol gydag ymrwymiadau cyfredol, sef  Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol (CFAP), Cronfa Arallgyfeirio Swyddfeydd Post (PODF) a Chronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT).  Rwy'n ystyried yr opsiwn o gynllun newydd ar hyn o bryd gan ystyried yr ymatebion i ymgynghoriad CFAP.  Fy nod yw i gynllun newydd ddechrau yn ystod blwyddyn ariannol 2014-15.

 

Y llinell gyfalaf arall yw'r Grant Cyfalaf Sipsiwn a Theithwyr y cyfeirir ato mewn rhannau eraill o'r papur hwn ac a gaiff ei gynnal ar y lefel gyfredol hyd at £1.5m o 2014-15 ymlaen. 

 

 

7.            Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb

      

Grant Cymorth i Gyflogwyr (Remploy)

 

Gwnaethom lansio'r Grant Cymorth i Gyflogwyr (ESG) er mwyn helpu gweithwyr cymwys Remploy a oedd wedi'u dadleoli i ddod o hyd i waith newydd.  Mae hyn yn cefnogi Amcanion 2 a 5 Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol, o fewn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol (SEP).

 

Nod ESG yw helpu gweithwyr sy'n wynebu diweithdra oherwydd penderfyniad Llywodraeth y DU i gau ffatrïoedd Remploy yng Nghymru.  Mae'r arian ar gael i sefydliadau a all gynnig cyflogaeth addas i gyn-weithwyr anabl Remploy am isafswm o bedair blynedd.  Mae'r cymorth hefyd ar gael i gyn-weithwyr anabl Remploy sydd wedi dod yn hunangyflogedig neu sy'n bwriadu dechrau eu busnes eu hunain.  Ym mis Mai 2013, cyhoeddwyd y bydd gweithwyr cymwys Remploy yr effeithir arnynt gan 'Gam 2' hefyd yn cael yr un lefel o gymorth gan Lywodraeth Cymru. 

 

Bydd hyn yn eu diogelu ac yn ymestyn yr effeithiau cadarnhaol ar y bobl anabl hynny yng Nghymru, a'u helpu i barhau i fod yn aelodau gweithredol o weithlu Llafur Cymru, a mwynhau'r buddiannau a geir gan bobl eraill o ran cyflogaeth, gan gynnwys chwarae rhan weithredol yn eu cymunedau lleol.  Er mwyn cefnogi'r cyfleoedd hyn am swyddi i bobl anabl yng Nghymru dros gyfnod o bedair blynedd, rydym yn helpu i sicrhau gweithlu cynhwysol a chynhyrchiol sy'n gynaliadwy.  Ceir cysylltiadau â thlodi yn aml i'r rheini sy'n anabl, yn bennaf oherwydd rhesymau megis diffyg incwm a ddaw yn sgil y ffaith na allant sicrhau cyflogaeth oherwydd eu hanabledd.  Felly, mae'r arian hwn yn creu effeithiau economaidd-gymdeithasol cadarnhaol.

Arian Seilwaith ar gyfer y Trydydd Sector

 

O ganlyniad i'r ymgynghoriad "Parhad a Newid: Adnewyddu'r Berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r Trydydd Sector yng Nghymru" a ddaeth i ben ar 8 Awst 2013, mae'n debygol y gwneir newidiadau er mwyn gwella'r cysylltiad rhwng y ddwy ochr ac ailgydbwyso’r cymorth a roddir i arian seilwaith.  Ar y lefelau a gynigir, mae'n debygol na chaiff y lleihad yn y gyllideb yn 2014-15 a 2015-16 fawr ddim effaith, neu effaith fach iawn, ar y rhai â nodweddion gwarchodedig.  Ystyriwyd yr effeithiau ar gydraddoldeb drwy gydol y broses a bydd hyn yn cyfrannu at asesiad llawn o effeithiau unrhyw newidiadau ar gydraddoldeb ar ôl i'r ymatebion i'r ymgynghoriad gael eu dadansoddi a'r opsiynau ar gyfer newid gael eu pennu.

 

Gwasanaethau Cyngor

 

Nododd y Rhaglen Lywodraethu ein hymrwymiad i gefnogi darparwyr cyngor yn y trydydd sector i helpu pobl sydd â phroblemau dyled a helpu pobl i reoli eu harian.  Mae amcan un y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn canolbwyntio'n benodol ar atgyfnerthu gwasanaethau cyngor a gwybodaeth.  Mae'r camau gweithredu i fwrw ymlaen â'r amcan hwn yn cael eu rhoi ar waith yn sylweddol fel rhan o'r Adolygiad o Wasanaethau Cyngor.  Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Hadolygiad o Wasanaethau Cyngor ym mis Mai 2013ac mae gwaith yn mynd rhagddo gan y Fforwm Darparwyr Cyngor Annibynnol ar ymateb y sector i'r adolygiad. O ran arian, gwnaethom gyfuno cynlluniau presennol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â defnyddio budd-daliadau (Cyngor Da, Iechyd Da, Defnyddio Budd-daliadau ar gyfer Plant ag Anableddau a Defnyddio Budd-dal y Dreth Gyngor a Budd-dal Tai) er mwyn gwella'r gwasanaethau cyngor sydd ar gael yng Nghymru. 

 

Byddwn yn parhau i gefnogi'r gwaith y mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn ei wneud ledled Cymru i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed a mwyaf difreintiedig, gan gynnwys y cynllun defnyddio budd-daliadau cyfunol - Cyngor Da, Bywyd Da (BABL) y mae'n ei weinyddu gyda £2.2m o arian a ddiogelir yn 2014-15.   

 

Cymunedau yn Gyntaf

 

Mae cynnwys cymunedau, cydraddoldebau a chynhwysiant yn parhau i fod yn flaenoriaethau hollbwysig ar gyfer pob elfen o raglen Cymunedau yn Gyntaf.  Mae pob Clwstwr wedi datblygu Cynllun Cynnwys Cymunedau i ddangos sut y caiff pobl leol yn gyffredinol, a grwpiau ac unigolion ymylol yn enwedig, eu cynorthwyo gan y rhaglen leol a sut y byddant yn cyfrannu ati.  Mae'r cynlluniau hyn eisoes ar waith a chânt eu hatgyfnerthu a'u mireinio ymhellach wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

 

Caiff yr Asesiad o Effaith ar Gydraddoldebau a gynhaliwyd yn 2012 ei adolygu drwy gydol y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf a bydd angen ystyried yn ofalus sut y caiff unrhyw ostyngiadau eu gwneud a'u rheoli.  Fodd bynnag, bydd y Rhaglen Trechu Tlodi Gymunedol ar ei newydd wedd, sydd â chylch gwaith cyson i helpu'r bobl fwyaf difreintiedig yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, yn parhau a byddwn hefyd yn parhau i ddyfarnu £75m hyd at fis Mawrth 2015 i'r 52 o Glystyrau Cymunedau yn Gyntaf.  Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi amrywiaeth o gamau "plygu rhaglenni" allweddol mewn partneriaeth ag adrannau eraill Llywodraeth Cymru ac asiantaethau partner. 

 

Cynhwysiant Digidol

 

Mae ein gwaith ar gynhwysiant digidol wedi'i wreiddio mewn cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, ac mae cysylltiad cryf rhyngddo a blaenoriaethau Trechu Tlodi a blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru.  Awgryma'r dystiolaeth fod pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol yn fwy tebygol o fod yn hŷn, yn anabl, yn byw mewn ardaloedd difreintiedig ac ar incwm isel, sy'n cynnwys tenantiaid tai cymdeithasol a phobl ddi-waith.  Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar y grwpiau hyn fel y gallant wella ansawdd eu bywyd a'u cyfleoedd mewn bywyd drwy fwynhau'r buddiannau y gall y rhyngrwyd a thechnolegau digidol eraill eu cynnig.

 

Drwy'r Cynllun Cyflawni Cynhwysiant Digidol a gwaith ein rhaglen cynhwysiant digidol Cymunedau 2.0, byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda sefydliadau allweddol sy'n cynrychioli'r bobl sy'n wynebu'r allgáu digidol mwyaf ac yn gweithio gyda hwy.  Mae'r rhain yn cynnwys Age Cymru, Anabledd Cymru, RNIB, Shelter, Gofal a Thrwsio, clystyrau Cymunedau yn Gyntaf, Cymdeithasau Tai ac Awdurdodau Lleol.  Mae'r Rhaglen hefyd yn gweithio gyda grwpiau cydraddoldeb eraill gan gynnwys Chwarae Teg a grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.  Byddwn yn parhau i ddarparu £1m yn 2014-15 fel cyllid cyfatebol ar gyfer rhaglen cynhwysiant digidol Cymunedau 2.0 a ariennir gan Ewrop. 

 

Cydraddoldebau

 

Caiff ein hymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb a thegwch ei adlewyrchu yn y penderfyniad i ddiogelu'r arian ar gyfer y Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant ar y lefel bresennol o hyd at £1.6m yn 2014-17.  Mae'r grant hwn yn darparu arian grant i grwpiau a sefydliadau yn y trydydd sector er mwyn eu helpu i hyrwyddo cydraddoldeb, mynd i'r afael â gwahaniaethu ac annog cymunedau cydlynol a chynhwysol ledled Cymru.  Mae gwaith sefydliadau yn y trydydd sector yn bwysig o ran helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni amcanion cydraddoldeb ei Chynllun Cydraddoldeb Strategol.

 

Drwy gynnal y lefel ariannu hon, gellir cyflawni effeithiau cadarnhaol ar gyfer pob grŵp gwarchodedig ledled Cymru.  Fodd bynnag, gan fod yr arian hwn yn seiliedig ar geisiadau, bydd yr effaith ar grwpiau penodol yn dibynnu ar y sefydliadau hynny sy'n gwneud cais ac yn llwyddo i gael arian.  Ar sail tueddiadau blaenorol o ran dosbarthiad yr arian a ddyfarnwyd, roedd y sefydliadau y dyfarnwyd arian iddynt yn 2012-13 yn cynrychioli’r holl nodweddion gwarchodedig (ac eithrio priodas a phartneriaeth sifil ac ailbennu rhywedd).  Yn benodol, cafodd grwpiau yn cynrychioli rhyw, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chred, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd ac oedran arian drwy'r cynlluniau grant presennol.  Gall sefydliadau sy'n cynrychioli grwpiau â nodweddion gwarchodedig sydd heb sefydliadau a ariennir, wneud cais am grantiau meithrin gallu fel rhan o'r cynllun newydd. Caiff yr arian effaith gadarnhaol sylweddol ar gydraddoldeb gan ei fod o fudd uniongyrchol i bobl sy'n aml yn wynebu allgau, anfantais a gwahaniaethu.

 

Mae'r arian grant hwn hefyd yn cyfrannu at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i drechu tlodi yng Nghymru. Dengys tystiolaeth fod grwpiau gwarchodedig penodol yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi, e.e. pobl anabl a rhieni unigol, y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn ferched. O ran merched, yn 2012-13, dyfarnwyd 20% o elfen gydraddoldeb y grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant i grwpiau a oedd yn gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb i ferched.

 

Bydd yr arian grant yn helpu i gyflawni ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol (SEP), sy'n cyd-fynd â'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi, e.e. o ran mynd i'r afael â gwahaniaethau o ran cyflogau a gwaith, lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant a helpu pobl anabl i fyw'n annibynnol.

 

Er mwyn sicrhau bod gwerth am arian cyhoeddus yn cael ei gynnal a bod y cynllun grant yn adlewyrchu'r cyd-destun economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol, cafodd y cynllun grant ei ailddatblygu yn 2012-13 gan ymgysylltu'n llawn â'r trydydd sector a'r sector statudol. Mae'r grant wedi cael ei ddiogelu ar ei lefel gwariant bresennol am y tair blynedd nesaf, sy'n golygu y gellir gwneud gwaith cynllunio tymor hwy, ac mae wedi'i ailstrwythuro mewn ffordd sy'n golygu y caiff effaith fwy cynaliadwy ar ôl iddo gael ei gysoni â'r SEP (sydd, yn ei dro, yn seiliedig ar dystiolaeth ac ymgysylltu).  Cafodd 14% o'r holl arian grant yn 2012-13 ei ddyfarnu i grwpiau a oedd yn cynrychioli oedran, gan gynnwys plant a phobl ifanc.  Mae hyn yn helpu i gefnogi a hyrwyddo hawliau plant ac yn cefnogi cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru.

 

Sipsiwn a Theithwyr

 

Caiff ein hymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb a thegwch ei adlewyrchu hefyd yn y penderfyniad i ddiogelu'r arian ar gyfer Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr ar y lefel bresennol o hyd at £1.5m o 2014-15 ymlaen.  Mae hwn yn rhoi arian grant i awdurdodau lleol i'w helpu i wella safleoedd Sipsiwn a Theithwyr presennol sy'n eiddo i awdurdodau lleol a datblygu safleoedd newydd ledled Cymru.  Mae'r gwaith i wella amodau byw ar safleoedd sy'n eiddo i awdurdodau lleol yng Nghymru yn bwysig er mwyn helpu Llywodraeth Cymru i weithredu 'Teithio i Ddyfodol Gwell' - Fframwaith Gweithredu a Chynllun Cyflenwi ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. 

 

Bydd cadw'r un lefel ariannu ar gyfer safleoedd yn golygu y gellir cyflawni amrywiaeth o effeithiau cadarnhaol ledled Cymru.  Dangosodd ymchwil gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod Sipsiwn a Theithwyr yn wynebu problemau penodol o ran allgáu ac anghydraddoldeb.  Bydd gan Sipsiwn a Theithwyr â llety ar safleoedd parhaol well mynediad at wasanaethau fel addysg ac iechyd. 

 

Mae'r dystiolaeth bod angen gwella safleoedd yn cynnwys adolygiad yr Athro Niner yn 2006 o safleoedd Sipsiwn a Theithwyr ledled Cymru. Tynnodd yr adolygiad hwn sylw at y gwaith adnewyddu brys yr oedd angen ei wneud i wella safleoedd awdurdodau lleol fel eu bod yn cyrraedd y safon ofynnol.  Cyflwynodd Llywodraeth Cymru Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn fuan wedi hynny i fynd i'r afael â'r broblem hon. Yn fwy diweddar, cawsom adborth gan rai awdurdodau lleol a rhai Sipsiwn a Theithwyr sy'n byw ar safleoedd sy'n eiddo i awdurdodau lleol yn nodi bod angen atgyweirio a gwella safleoedd.   Er bod arian dros y blynyddoedd diwethaf wedi gwella amodau byw i Sipsiwn a Theithwyr, mae angen gwneud rhagor o waith ledled Cymru i wella safonau safleoedd. 

 

Mae'r arian grant hwn hefyd yn cyfrannu at ein hymrwymiad i drechu tlodi gan fod tystiolaeth yn awgrymu bod niferoedd sylweddol o Sipsiwn a Theithwyr yn byw mewn tlodi.  Er enghraifft, mae nifer uwch o Sipsiwn a Theithwyr ifanc yn ôl cyfran sy'n hawlio prydau ysgol am ddim.

 

Er mwyn sicrhau bod gwerth am arian cyhoeddus yn cael ei gynnal a bod y cynllun grant yn adlewyrchu'r cyd-destun economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol, cafodd y broses o wneud cais am arian grant ei hailddatblygu yn 2012-13 gan ymgysylltu'n llawn â rhanddeiliaid mewnol ac allanol.  Ymhlith yr enghreifftiau diweddar o welliannau yn y maes hwn mae: adnewyddu ffyrdd mynediad i safleoedd; sicrhau nad oes ceblau trydan rhydd; mesurau arafu traffig, sydd i gyd wedi gwella iechyd a diogelwch Sipsiwn a Theithwyr sy'n byw ar safleoedd presennol sy'n eiddo i awdurdodau lleol.

 

Mae Erthygl 27 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn datgan bod hawl gan bob plentyn i gael safon byw ddigonol ar gyfer ei ddatblygiad corfforol, meddyliol, ysbrydol, moesol a chymdeithasol.  Dylai'r arian grant hwn, yn ogystal â'r ddyletswydd newydd arfaethedig, sicrhau bod plant yn byw ar safleoedd sy'n cyrraedd safonau gofynnol ac nid ar safleoedd diawdurdod, a all fod yn anniogel.  Rhagwelir y bydd gan blant a phobl ifanc fynediad gwell at gyfleusterau addysg, gofal iechyd a chymunedol ac y cânt eu hintegreiddio'n well mewn cymunedau lleol os caiff safleoedd presennol eu gwella ac os caiff safleoedd newydd eu darparu o ganlyniad i ddyletswydd.

 

 

 

 

 

Jeff Cuthbert AC

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

 

 

 

 

 

 


PRIF GRŴP GWARIANT CYMUNEDAU A THRECHU TLODI

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

CYLLIDEB REFENIW - Terfyn Gwariant Adrannol

 

 

 

 

 

SPA

Camau gweithredu

Teitl BEL

Cyllideb atodol 2013-14

Cyllideb Derfynol Cynlluniau Dangosol wedi'u Hailddatgan 2014-15

Newidiadau 2014-15

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau newydd 2014-15

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2015-16

Cefnogi Cymunedau a Phobl

Y Trydydd Sector

Y Trydydd Sector

8,000

8,000

-700

7,300

7,000

 

CYFANSWM GWEITHREDU

8,000

8,000

-700

7,300

7,000

Trechu Tlodi

Cynhwysiant Ariannol

16,177

16,177

-200

15,977

14,977

Cynhwysiant Digidol

1,000

1,000

 

1,000

1,000

Diwygio Lles

1,500

145

 

145

0

Cymunedau yn Gyntaf

40,280

40,250

-800

39,450

38,383

Polisi Tlodi Plant

140

140

 

140

140

 

CYFANSWM GWEITHREDU

59,097

57,712

-1,000

56,712

54,500

 

 

 

 

 

 

 

Datblygu Cynaliadwy a Chydraddoldeb

Datblygu Cynaliadwy a Chydraddoldeb

Cydlyniant Cymunedol

500

200

 

200

200

Cronfa Datblygu Cynaliadwy

776

776

 

776

776

Cronfa Cydraddoldeb a Chynhwysiant

1,645

1,645

 

1,645

1,645

 

CYFANSWM GWEITHREDU

2,921

2,621

 

2,621

2,621

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm yr Adnoddau

 

70,018

68,333

-1,700

66,633

64,121

 

 

 

 

 

 

 

 

 

CYLLIDEB CYFALAF - Terfyn Gwariant Adrannol

 

 

 

 

 

SPA

Camau gweithredu

Teitl BEL

Cyllideb atodol 2013-14

Cyllideb Derfynol Cynlluniau Dangosol wedi'u Hailddatgan 2014-15

Newidiadau 2014-15

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2014-15

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2015-16

Cymunedau a Threchu Tlodi

Cymunedau a Threchu Tlodi

 

 

 

 

 

 

Cyfleusterau Cymunedol

10,950

10,950

 

10,950

10,950

Sipsiwn-Teithwyr

1,500

1,500

 

1,500

1,500

 

 

Cyfanswm GWEITHREDU

10,950

10,950

0

10,950

10,950

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm y Cyfalaf

 

12,450

1

0

12,450

1

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm DEL

 

82,468

80,783

-1,700

79,083

76,571

 

 

Tablau adnoddau = Y gwaelodlin a ddefnyddiwyd ar gyfer DEL Adnoddau yn 2014-15 yw'r un yng Nghyllideb Derfynol 2013-14, a ailddatganwyd i adlewyrchu newidiadau ym mhortffolio'r Gweinidog fel y cyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ym mis Mawrth

ac a addaswyd i adlewyrchu addasiadau rheolaidd i'r gwaelodlin a gynhwyswyd yng Nghyllideb Atodol Gyntaf 2013-14.  Nodir yr addasiadau hyn i'r gwaelodlin yn Atodiad D i naratif y Gyllideb Ddrafft.

 

Tablau cyfalaf = Y gwaelodlin a ddefnyddiwyd ar gyfer DEL Cyfalaf yn 2014-15 yw'r un yng Nghyllideb Derfynol 2013-14, a ailddatganwyd i adlewyrchu newidiadau ym mhortffolio'r Gweinidog fel y cyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ym mis Mawrth.